Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 1 Gorffennaf 2019

Amser: 14.30 - 14.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5446


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Suzy Davies AC

Carwyn Jones AC

Dai Lloyd AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Alex Hadley (Dirprwy Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn codi unrhyw faterion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)422 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019

</AI3>

<AI4>

2.2   SL(5)423 - Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

</AI4>

<AI5>

3       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI5>

<AI6>

3.1   SL(5)421 - Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt rhinweddau a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

4       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

</AI7>

<AI8>

4.1   SL(5)424 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd ar ei adroddiad.

</AI8>

<AI9>

5       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI9>

<AI10>

5.1   WS-30C(5)134 - Rheoliadau Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (Ymadael â'r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor y Datganiad a'r Sylwebaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Rheoliadau, ac i dynnu sylw'r pwyllgorau yn Senedd y DU at ei bryderon.

</AI10>

<AI11>

5.2   WS-30C(5)135 - Rheoliadau REACH etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

Trafododd y Pwyllgor y Datganiad a'r Sylwebaeth, ac roedd yn fodlon.

</AI11>

<AI12>

6       Papur(au) i'w nodi

</AI12>

<AI13>

6.1   Llythyr gan y Prif Weinidog: Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

</AI13>

<AI14>

6.2   Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

</AI14>

<AI15>

6.3   Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at y Cyfreithiwr Cyffredinol: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at y Cyfreithiwr Cyffredinol.

</AI15>

<AI16>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

</AI16>

<AI17>

8       Trafod y flaenraglen waith

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidogion i ofyn am ddiweddariad ar Ddatganiadau Ysgrifenedig ac Offerynnau Statudol sydd i ddod.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol i ofyn am ddiweddariad ynghylch y ddau gyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion y bu’n bresennol ynddynt yn ddiweddar.

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>